Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rhan 3 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/379 (Cy. 94)) (“Rheoliadau 2019”) ac yn ei hail-wneud gyda diwygiadau.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru, sy’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu gosod ar y farchnad a’u symud ar draws ffin.

Mae rheoliadau 2 a 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i is-ddeddfwriaeth Gymreig er mwyn cywiro unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 4 yn dirymu darpariaethau amrywiol gan gynnwys Rhan 3 o Reoliadau 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


 

Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]).

Yn unol â pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019.

(2) Daw rheoliadau 1 a 4 i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.

(3) Daw rheoliadau 2 a 3 i rym ar y diwrnod ymadael.

Diwygiadau i Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002([2]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1)—

(a)     hepgorer y diffiniad o “y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid” (“the Food and Feed Regulation”);

(b)     yn lle’r diffiniad o “cynnyrch wedi’i gymeradwyo” (“approved product”) rhodder—

ystyr “cynnyrch wedi’i gymeradwyo” (“approved product”) yw—

(a)   cynnyrch y caniatawyd iddo gael ei farchnata yng Nghymru drwy—

                       (i)  caniatâd a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 111(1) o’r Ddeddf,

                      (ii)  awdurdodiad o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1829/2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig, neu

(b)   cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael;;

(c)     hepgorer y diffiniad o “y Comisiwn” (“the Commission”);

(d)     hepgorer y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”);

(e)     yn y lle priodol mewnosoder—

“ystyr “cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael” (“pre-exit approved product”) yw cynnyrch y caniatawyd, yn union cyn y diwrnod ymadael, iddo gael ei farchnata yng Nghymru drwy—

(a)   caniatâd a roddwyd yn unol ag Erthygl 15(3), 17(6) neu 18(2) o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Erthygl 13(2) neu (4) o Gyfarwyddeb 1990, neu

(b)   awdurdodiad o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1829/2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig,

ac na thynnwyd y caniatâd neu’r awdurdodiad perthnasol yn ôl, neu nad yw’r caniatâd neu’r awdurdodiad perthnasol wedi peidio â bod yn ddilys fel arall, mewn cysylltiad ag ef;”.

(3) Yn rheoliad 10, hepgorer y geiriau o “gollwng yn unol â chaniatâd” hyd at “neu lle mae”.

(4) Yn rheoliad 12(1)(ch)—

(a)     hepgorer y geiriau o “ar y ffurf” hyd at “Bwriadol,”;

(b)     ar y diwedd, mewnosoder “, ar y ffurf berthnasol a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Cyngor 2002/813/EC”.

(5) Yn rheoliad 16—

(a)     yn lle paragraff (b) rhodder—

(b) lle mae organeddau a addaswyd yn enetig wedi’u rhoi ar gael ar gyfer gweithgareddau a reoleiddir o dan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2014([3]);;

(b)     hepgorer paragraff (c);

(c)     ym mharagraff (ch), yn lle “;” rhodder “; neu” ;

(d)     yn lle paragraff (d) rhodder—

(d) lle mae organedd a addaswyd yn enetig a gynhwysir mewn cynnyrch meddygol a awdurdodir o dan Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012([4]) neu Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013([5]) yn cael ei farchnata.”;

(e)     hepgorer paragraff (e).

(6) Yn rheoliad 17(2)—

(a)     yn is-baragraff (b)—

                            (i)    yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”;

                          (ii)    hepgorer y geiriau o “neu i awdurdod cymwys arall” hyd at y diwedd;

(b)     yn is-baragraff (e), ar ôl “Bwriadol” mewnosoder “, fel y’i darllenir gyda’r nodiadau cyfarwyddyd a nodir ym Mhenderfyniad y Cyngor 2002/811/EC,”;

(c)     yn is-baragraff (g), yn lle’r geiriau o “a sefydlwyd gan y Comisiwn” hyd at y diwedd, rhodder “a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Cyngor 2002/812/EC”.

(7) Yn rheoliad 21—

(a)     hepgorer paragraff (c);

(b)     ym mharagraff (dd), hepgorer y geiriau o “ac unrhyw sylwadau a wnaed” hyd at y diwedd.

(8) Yn rheoliad 22—

(a)     ym mharagraff (3), hepgorer “a sicrhau bod ei benderfyniad yn cael ei gyfathrebu i’r Comisiwn”;

(b)     yn lle paragraff (6) rhodder—

(6) Rhaid i’r wybodaeth a gyflwynir yn unol â pharagraff (5) gael ei darparu ar y ffurf a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2003/701/EC.

(9) Yn lle rheoliad 24 rhodder—

“Dyletswyddau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig

24.—(1) Ar ôl cael cais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(1) o’r Ddeddf rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)   hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig o’r dyddiad y daeth y cais i law;

(b)   archwilio’r cais i weld a yw’n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a’r Rheoliadau hyn ac, os yw hynny’n angenrheidiol, gofyn i’r ceisydd gyflenwi gwybodaeth ychwanegol yn unol ag adran 111(6) o’r Ddeddf;

(c)   cyn diwedd y cyfnod o 90 diwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y daeth y cais i law naill ai—

(i)    anfon at y ceisydd adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy’n nodi y dylid caniatáu i’r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata ac o dan ba amodau, neu

(ii)   gwrthod y cais, gan ddatgan y rhesymau dros eu penderfyniad, a hynny wedi’i ategu gan adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy’n nodi na ddylid marchnata’r organeddau a addaswyd yn enetig.

(2) Nid yw’r cyfnod o 90 diwrnod a ragnodir ym mharagraff (1)(c) yn cynnwys unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan adran 111(6) o’r Ddeddf fod angen gwybodaeth bellach mewn perthynas â’r cais a chan ddiweddu ar y diwrnod y daeth yr wybodaeth honno i law Gweinidogion Cymru.

(3) Pan fo’r adroddiad asesu y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) yn nodi y dylid caniatáu i’r organeddau a addaswyd yn enetig y mae’r cais yn ymwneud â hwy gael eu marchnata, rhaid i Weinidogion Cymru wahodd unrhyw berson, drwy gyfrwng cais sy’n cael ei osod ar y gofrestr, i gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad asesu, a rhaid iddynt ddod i law Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o 30 diwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y gosodir y cais ar y gofrestr (ac ni chaiff hynny fod yn gynt na’r diwrnod y gosodir yr adroddiad asesu ar y gofrestr o dan reoliad 35(7A).”

(10) Yn lle rheoliad 25 rhodder—

“Penderfyniadau gan Weinidogion Cymru ar geisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig

25.—(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(1) o’r Ddeddf fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

(2) Pan fo Gweinidogion Cymru’n gwahodd sylwadau ar adroddiad asesu sy’n ymwneud â chais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig—

(a)   ni chaiff Gweinidogion Cymru benderfynu cytuno ar gais, neu ei wrthod, cyn i’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o dan reoliad 24(3) ddod i ben a chyn i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â’r rheoliad hwnnw;

(b)   rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn 105 o ddiwrnodau ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o dan reoliad 24(3)—

(i)    penderfynu ar y cais, a

(ii)   hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig am y penderfyniad i gytuno ar y cais, neu ei wrthod, a’r rhesymau dros y penderfyniad.

(3) Nid yw’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) yn cynnwys unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan adran 111(6) o’r Ddeddf bod rhagor o wybodaeth yn ofynnol mewn cysylltiad â’r cais, ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae’r wybodaeth honno yn dod i law Gweinidogion Cymru.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), caiff caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig gael ei roi am uchafswm cyfnod o ddeng mlynedd gan ddechrau â’r diwrnod pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi caniatâd o dan adran 111 o’r Ddeddf.

(5) Rhaid i gyfnod y caniatâd cyntaf i farchnata—

(a)   organedd a addaswyd yn enetig, neu

(b)   epil o’r organedd hwnnw a addaswyd yn enetig sydd wedi’i gynnwys mewn amrywiad planhigyn lle mae’r amrywiad planhigyn wedi’i fwriadu ar gyfer marchnata ei hadau yn unig,

ddod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl y dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf yr amrywiad planhigyn cyntaf sy’n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar Restr Genedlaethol yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001([6]).

(6) At y diben o roi caniatâd i farchnata organedd a addaswyd yn enetig sydd wedi’i gynnwys mewn deunydd fforest atgynhyrchiol, bydd cyfnod y caniatâd cyntaf yn dod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl y dyddiad penodedig.

(7) Ym mharagraff (6), ystyr “y dyddiad penodedig” yw’r dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf ddeunydd sylfaenol sy’n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar y Gofrestr Genedlaethol yn unol â rheoliadau 6 a 7 o Reoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002([7]).”

(11) Yn rheoliad 26, hepgorer paragraffau (1)(ch) a (2).

(12) Yn rheoliad 27—

(a)     yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais i adnewyddu caniatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.;

(b)     yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r ceisydd am benderfyniad ar gais i adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig cyn gynted â phosibl a rhaid iddynt gynnwys, mewn unrhyw wrthodiad i adnewyddu caniatâd, y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(13) Yn rheoliad 29(dd) yn lle’r geiriau o “i’r Comisiwn” hyd at “Aelod-wladwriaethau” rhodder “ar y ffurf berthnasol a nodir yn yr Atodiadau i Benderfyniad y Comisiwn 2009/770/EC”.

(14) Yn lle rheoliad 32 rhodder—

Amrywio neu ddirymu caniatâd i farchnata

32.—(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond amrywio neu ddirymu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o’r Ddeddf heb gytundeb deiliad y caniatâd pan fo gwybodaeth newydd wedi dod ar gael y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n effeithio ar yr asesiad o’r risg o beri niwed i’r amgylchedd drwy ollwng yr organeddau.

(2) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu amrywio caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o’r Ddeddf fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

(15) Yn rheoliad 33, hepgorer paragraffau (3) i (5).

(16) Yn rheoliad 35, yn lle paragraffau (1) i (9) rhodder—

(1) Rhaid i’r gofrestr gynnwys y manylion a nodir ym mharagraffau (2) i (10).

(2) Mewn perthynas â hysbysiad gwahardd a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 110 o’r Ddeddf—

(a)   enw a chyfeiriad y person y mae’r hysbysiad yn cael ei gyflwyno iddo;

(b)   disgrifiad o’r organeddau a addaswyd yn enetig y mae’r hysbysiad yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â hwy;

(c)   y man lle bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig;

(ch) at ba ddiben y bwriedir gollwng neu farchnata’r organeddau a addaswyd yn enetig;

(d)   y rheswm dros gyflwyno’r hysbysiad;

(dd) unrhyw ddyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad fel y dyddiad y daw’r gwaharddiad i rym.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac mewn perthynas â chais am ganiatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf—

(a)   enw a chyfeiriad y ceisydd;

(b)   disgrifiad cyffredinol o’r organeddau a addaswyd yn enetig y mae’r cais yn cael ei wneud mewn perthynas â hwy;

(c)   y man lle bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig, i’r graddau y mae’r wybodaeth hon wedi’i hysbysu i Weinidogion Cymru;

(ch) at ba ddiben y bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig (gan gynnwys unrhyw ddefnydd y bwriedir ar eu cyfer yn y dyfodol) neu, mewn perthynas â chaniatâd i farchnata, at ba ddiben y byddant yn cael eu marchnata;

(d)   dyddiad arfaethedig eu gollwng;

(dd) yr asesiad risg amgylcheddol;

(e)   y dulliau a’r cynlluniau ar gyfer monitro’r organeddau a addaswyd yn enetig ac ar gyfer ymateb i argyfwng;

(f)   crynodeb o unrhyw gyngor y mae Gweinidogion Cymru wedi’i gael oddi wrth y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd ynghylch a ddylid caniatáu neu wrthod cais i ollwng, neu farchnata, organeddau a addaswyd yn enetig, a naill ai—

(i)    yr amodau neu’r cyfyngiadau y mae’r Pwyllgor hwnnw wedi cynghori y dylid rhoi’r caniatâd yn unol â hwy, neu

(ii)   crynodeb o’r rhesymau pam y mae’r Pwyllgor hwnnw wedi cynghori na ddylid rhoi’r caniatâd;

(ff)  y crynodeb o’r wybodaeth a gynhwyswyd yn y cais sy’n ofynnol gan reoliad 12(1)(ch) neu, yn ôl y digwydd, o’r cais sy’n ofynnol gan reoliad 17(2)(g).

(3A) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac i’r ffaith nad yw’r wybodaeth yn gyfrinachol, mewn perthynas â chais am ganiatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig—

(a)   enw a chyfeiriad y person sy’n gyfrifol am y marchnata, boed y gweithgynhyrchydd, y mewnforiwr neu’r dosbarthwr;

(b)   enw masnachol arfaethedig y cynnyrch;

(c)   enwau’r organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn y cynnyrch, gan gynnwys enwau gwyddonol a chyffredin, pan fo hynny’n briodol, yr organeddau rhieniol, yr organeddau derbyn a’r organeddau rhoi;

(ch) marciau adnabod unigryw yr organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn y cynnyrch;

(d)   cod cyfeirnod ar gyfer y cais a neilltuwyd gan Weinidogion Cymru;

(dd) yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais fel a bennir ym mharagraffau 3 a 7 o Atodlen 3;

(e)   gwybodaeth am samplau o’r organeddau a addaswyd yn enetig sydd wedi’u storio, gan gynnwys y math o ddeunydd, ei nodweddion genetig a’i sefydlogrwydd, swm y deunydd mewn storfa, a’r amodau storio priodol a’r oes silff.

(4) Os yw Gweinidogion Cymru yn ymwybodol neu os deuant yn ymwybodol fod gwybodaeth ynglŷn ag organeddau a addaswyd yn enetig neu ynglŷn â diben eu gollwng neu eu marchnata wedi’i chyhoeddi a bod honno’n fanylach na’r hyn a fyddai’n bodloni gofynion paragraff (3), rhaid iddynt nodi cymaint o’r wybodaeth fanylach honno ar y gofrestr ag y byddant yn ystyried yn briodol.

(5) Mewn perthynas â chaniatadau a roddir o dan adran 111(1) o’r Ddeddf—

(a)   copi o’r caniatâd, a chyfeiriad at y cais y cafodd ei roi mewn perthynas ag ef;

(b)   unrhyw wybodaeth a gyflenwyd i Weinidogion Cymru yn unol ag amodau a bennwyd ar gyfer y caniatâd;

(c)   y ffaith bod y caniatâd wedi cael ei amrywio neu ei ddiddymu, cynnwys yr hysbysiad y cafodd y caniatâd ei amrywio neu ei ddirymu ganddo, a chopi o’r caniatâd wedi’i amrywio;

(ch) crynodeb o unrhyw gyngor y mae Gweinidogion Cymru wedi’i gael oddi wrth y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd ynghylch a ddylid amrywio neu ddirymu caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig.

(6) Yr wybodaeth ganlynol ynghylch y risg y byddai niwed yn cael ei beri i’r amgylchedd gan organeddau a addaswyd yn enetig—

(a)   unrhyw wybodaeth a ddarperir i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 111(6A) neu 112(5)(b)(i) o’r Ddeddf;

(b)   unrhyw wybodaeth ynglŷn â digwyddiad anrhagweledig sy’n digwydd mewn cysylltiad â gollyngiad organedd a addaswyd yn enetig a allai effeithio ar y risgiau sy’n bodoli o beri niwed i’r amgylchedd a’r wybodaeth honno wedi’i hysbysu i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 112(5)(b)(iii) o’r Ddeddf.

(7) Copi o unrhyw ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig a roddwyd cyn y diwrnod ymadael gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth.

(7A) Copi o unrhyw adroddiad asesu a luniwyd yn unol â rheoliad 24(1)(c) neu 26(1)(c).

(8) Lleoliad unrhyw organeddau a addaswyd yn enetig a dyfwyd yng Nghymru yn unol â chaniatâd i farchnata i’r graddau y mae’r wybodaeth honno yn cael ei chyflenwi i Weinidogion Cymru yn unol â’r gofynion monitro a bennwyd ar gyfer y caniatâd.

(9) Unrhyw benderfyniad a fabwysiadwyd cyn y diwrnod ymadael gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 18 o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

(17) Yn lle rheoliad 36 rhodder—

“Cadw’r gofrestr

36.—(1) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(2) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o gyflwyno’r hysbysiad gwahardd.

(2) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir ym mharagraffau (a) i (e) ac (ff) o reoliad 35(3) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o’r adeg y mae’r cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata wedi dod i law Gweinidogion Cymru.

(3) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(3)(f) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o adeg rhoi neu wrthod y caniatâd.

(4) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(3A) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o’r adeg y mae’r cais am ganiatâd i farchnata wedi dod i law Gweinidogion Cymru.

(5) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(a) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o roi’r caniatâd.

(6) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(b) ac (ch) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod ar ôl iddi ddod i law Gweinidogion Cymru.

(7) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(c) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o adeg dirymu neu amrywio’r caniatâd.

(8) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(6) a (10) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o’r adeg y daeth i law Gweinidogion Cymru.

(9) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(7A) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o’r adeg y cafodd ei llunio.

(10) Rhaid i’r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(8) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o’r adeg y daeth i law Gweinidogion Cymru.

(18) Yn Atodlen 3—

(a)     ym mharagraff 2, hepgorer “yn yr Undeb Ewropeaidd”;

(b)     ym mharagraff 5, hepgorer “o fewn yr Undeb Ewropeaidd”;

(c)     ym mharagraff 8, hepgorer “sydd wedi’i sefydlu yn yr Undeb Ewropeaidd”;

(d)     ym mharagraff 14, yn lle “yn yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “yng Nghymru”.

(19) Yn Atodlen 4, ym mharagraff 6, hepgorer y geiriau o “, ac a fwriedir gofyn” hyd at y diwedd.

Diwygiadau i Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005

3.(1)(1) Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005([8]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn yr Atodlen—

(a)     yn Rhan 1, yn nhestun yr ail golofn yn rhes “Erthygl 10(3)”, yn lle’r geiriau o “heb fod cytundeb” hyd at y diwedd rhodder “na chaniateir eu marchnata yn y Deyrnas Unedig, neu heb i awdurdod cymwys y wlad sy’n mewnforio gytuno’n benodol i awdurdodi’r mewnforio.”;

(b)     yn Rhan 2, yn nhestun yr ail golofn yn rhes “Erthygl 6”, hepgorer “ac i’r Comisiwn”.

Dirymu

4.(1)(1) Mae rheoliad 4(2) o Reoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018([9]) wedi ei ddirymu.

(2) Mae Rhan 3 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019([10]) wedi ei dirymu.

(3) Mae rheoliad 17 o Reoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019([11]) wedi ei ddirymu.

 

 

Enw

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           2018 p. 16.

([2])            O.S. 2002/3188 (Cy. 304), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/1913 (Cy. 156) ac O.S. 2018/1216 (Cy. 249).

([3])           O.S. 2014/1663.       

([4])            O.S. 2012/1916, a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/235, 2013/1855, 2013/2593, 2014/323, 2014/324, 2014/490, 2014/1878, 2015/178, 2015/259, 2015/354, 2015/903, 2015/1503, 2015/1862, 2015/1879, 2016/186, 2016/190, 2016/696, 2017/715, 2017/1322, 2018/199 a 2018/378.

([5])           O.S. 2013/2033, a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/599 a 2018/761.

([6])            O.S.  2001/3510.

([7])           O.S. 2002/3026.

([8])           O.S. 2005/1912 (Cy. 155).

([9])           O.S. 2018/1216 (Cy. 249).

([10])         O.S. 2019/379 (Cy. 94).

([11])         O.S. 2019/463 (Cy. 111).